Tudalen:Gwaith-John-Hughes-CyK.djvu/49

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

hwnw, dechreuodd gyfansoddi pennillion a hymnau, a phryd bynag y byddai rhywbeth neillduol ar ei meddwl, deuai allan yn bennill o hymn. Nid ysgrifenodd hi ond ychydig o honynt, ond adroddai hwynt i'r forwyn grybwylledig, a dymunai arni eu canu, i edrych a ddeuent ar y tônau; ac oddiar ei chof hi daeth y nifer fwyaf o honynt i wybodaeth gyhoeddus. Ysgrifenydd y cofiant hwn a'u hysgrifenodd, yn ol adroddiad R. H. o honynt, i'r diweddar Barch. Thomas Charles, o'r Bala, i'w hargraffu, er fod rhai o honynt wedi myned yn gyhoeddus o'r blaen, trwy fod rhai o'r pregethwyr a ddeuai i Ddolwar Fechan i bregethu wedi eu dysgu. Y mae ei hymnau a'i llythyrau yn ddrych tra eglur o ansawdd ysbrydol ei chrefydd.

Yna daw'r, llythyrau a w emyn nas cyhoeddasid o'r blaen, sef—

"Mae swn y clychau a chwarau."
"Cofia ddilyn y medelwyr."
"Pan oedd Sinai gynt yn danllyd."
"O na bai fy mhen yn ddyfroedd."
"Cofiwch hyn mewn stad o wendid."
"Y mae dyfroedd iachawdwriaeth."
"'A raid i'm sel oedd farmor tanllyd."
"Deffro, Arglwydd; gwna rymusder."
"Mi gerdda'n ara ddyddiau f'oes."

———————————

Y mae yr erthygl hon yn orgraff y Traethodydd. Dylwn ychwanegu nad oes ymgais at unffurfiaeth orgraff yn y llyfr hwn. Codwyd pob peth, hyd yr wyf yn cofio, o ysgrif a llyfr yn union fel y maent, oddigerth atalnodau. Yr wyf yn diolch i reithor Llanfihangel am gydmaru'r dyddiadau a'r rhai sydd yn llyfrau'r eglwys; ac i Mr. J. Glyn Davies am gywiro copi gymerais o lythyr Ann Griffiths bymtheng mlynedd yn ol.