Tudalen:Gwaith-John-Hughes-CyK.djvu/9

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Ni chafodd Duw mo'u dwyllo
Yn un o'u blant erio'd,
Fe wyddai am eu beiau
Er oesoedd cyn ei bod;
Mae'n dyled wedi ei dalu
Cyn ini bechu bai,
Ni all e ado 'n hollawl
Yr etholedig rai.

Ond cael Iesu yn y fyddin

HYMN 26.

Ond cael Iesu yn y fyddin,
Fe wyneba Seion wan
Ac gadernyd yr Edomiaid
A'r Moabiaid yn 'run man;
Daeth o Bozra,
Ni saif gelyn byth o'i flaen.

Ond cael, Iesu, dy gymdeithas,
I fynd trwy'r anial cas yn mlaen,
Ni bydd fy amal demtasiwnau,
Ond nifer o destynau can;
Buddugoliaeth
Gaf ar bob gelyn cyn bo hir.

Satan ddewr a'u demtasiwnau
Orchfygodd Iesu ar y llawr,
Parod yw i gydymdeimlo
A'n cynorthwyo ninau'n awr;
Mae fe'n ddigon
Mewn ystormydd o bob rhyw.

Paham y carai ddim o'r byd

HYMN 33

1. Paham y carai ddim o'r byd?
Rhaid imi gado oll i gyd;
Nid wy yma ond ar fy nhaith
Y mynd i dragwyddoldeb maith