Tudalen:Gwaith-Mynyddog-Cyfrol-2.djvu/112

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

CWYNAI CYMRU

Cwynai Cymru pan yn colli
Mil o ddewrion gloewon gledd,
Cwynai Cymru wedi hynny
Roi Llywelyn yn ei fedd;
Ond ar feddau'r dewrion hynny
Mae angylion hedd yn llu,
Er ys oesau yn dadganu
Cydgan rhyddid Cymru gu.

Cwynai Cymru weld cyfeillion
Yn ei gwawdio yn ei chefn,
Cwynai hefyd weld ei meibion
Yn bradychu'u hiaith drachefn;
Ond mae heulwen wedi codi
Ar ein hiaith ac ar ein gwlad,
Ac mae pawb yn uno i foli
Iaith a moesau Cymru fad.

Cwynai Cymru weld ei thelyn
Heb un llaw i ddeffro'i thant,
Gweld yr awen gyda deigryn
Ar ei grudd am fyrdd o'i phlant;
Ond mae'r deigryn wedi'i sychu,
Hen delynau'n fyw o gân,
Gyda mil o leisiau'n canu
Hen alawon Cymru lân.