Tudalen:Gwaith-Mynyddog-Cyfrol-2.djvu/119

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Os daw celwyddau gyda'r gwynt,
'Run fath a'r gwynt darfyddant,
Mae rhaffau celwydd ym mhob hynt
Yn crogi'r rhai a'u nyddant.

Mae'n rhaid i'r storm gael rhuo'n brudd,
A ffyliaid fod yn ffyliaid,
Er hynny, synwyr wêl y dydd
I gladdu pennau byliaid;
Gan hynny rhwym dy wregys cryf
Pan fflachia'r mellt yn d'ymyl,
Ac edrych am yr haul yn hŷf—
Mae ef tu ol i'r cymyl.

Os wyt am gadw ar ffordd y gwir
A gochel bradus heidiau,
Gwell iti gadw'th draed o dir
Gwleidyddiaeth a'i holl bleidiau;
Mae "A. B. C." gwleidyddwyr tynn
A "V" ar ben y wyddor,
Ond main yw'r lle a geir i'r hyn
A elwir yn egwyddor.

Paid gwisgo'th galon ar dy fraich
Os na fydd eisieu hynny,
A phaid a chrymu dan dy faich,
Ond cwyd dy ben i fyny;
Boed gwres ymroddiad yn dy waed,
A dywed trwy bob tywydd,
Fod daear rhyddid dan dy draed,
A Duw uwch ben yn llywydd.