Tudalen:Gwaith-Mynyddog-Cyfrol-2.djvu/12

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

DARLUNIAU.

Y mae y darluniau oll, ond y darlun o ôf Dinas Mawddwy,
o waith y diweddar John Thomas, Cambrian Gallery, Liverpool.

MYNYDDOG Wyneb-ddarlun

PEN Y MYNYDD

"O dewch tua’r moelydd,
Lle mae grug y mynydd
Yn gwenu yn ei ddillad newydd grai."

Y MELINYDD

"'Rwyn caru sŵn yr olwyn ddŵr
A droir gan ffrwd y nant."

MYNWENT EGLWYS LLANBRYNMAIR

Y GÔF

"Yng nghanol haearn, mŵg, a thân,
Mae’r gôf yn gwneud ei waith,
Ar hyd y dydd, gan ganu cân
O fawl i’w wlad a’i iaith."

AWEL Y BORE

"A charu ’r wyf yr awel wynt
A hed dros Gymru gu."

HEN GAPEL LLANBRYNMAIR.

"Bydd llygaid engyl gyda llygaid mam
Draw’n gwylio dros dy hun rhag it’ gael cam."