Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwaith-Mynyddog-Cyfrol-2.djvu/122

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

'RWY'N DOD, 'RWY'N DOD

(Just as I am)

Er mwyn y gwaed, fy Iesu hael,
Mae gobaith i bechadur gwael;
Ac fel yr un aflana'n bod,
At orsedd gras—'rwy'n dod, 'rwy'n dod.

Ni oedaf funud awr yn hwy
Heb guddio f' hun mewn marwol glwy',
Wrth droed dy groes yw'r fan i fod,
Fy Nghrist, fy Nuw,—'rwy'n dod, 'rwy'n dod.

Er cael fy nhaflu ar bob llaw,
Gan ofn gelynion yma a thraw;
Ac er fod ofnau câs yn bod,
O fewn fy mron,—'rwy'n dod, 'rwy'n dod.

Er mod i 'n ddall, yn noeth, yn dlawd,
Mae'r Hollgyfoethog imi'n frawd,
A thrysor penna'r nef sy'n bod,
Yng nghroes fy Nuw,—'rwy'n dod, 'rwy'n dod.

'Rwy'n credu'r hen addewid wiw,
Fod maddeu'n nghalon dyner Duw;
Cael claddu'm meiau yw fy nôd,
Yng nghlwyfau'r Oen,—'rwy'n dod, 'rwy'n dod.

Gwnaeth cariad Crist y ffordd yn rhydd,
O wlad y nos i wlad y dydd;
Mae miloedd yno'n canu 'i glôd,
'Rwyf fìnnau'r gwan, yn dod, yn dod.

DIWEDD