Tudalen:Gwaith-Mynyddog-Cyfrol-2.djvu/20

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PERTHYNASAU’R WRAIG.

Mi wnes beth unwaith yn fy oes
Na wnaf mo hono mwy,
Priodais gyda geneth lân,
Y lanaf yn y plwy;
Mi wyddwn eisoes fod gan hon
Berthnasau yn y byd,
Ond chydig a feddyliais am
Briodi’r rhain i gyd;
Dyna’i hewyrth, dyna’i modryb, &c., &c.

Pan b’wyf yn gofyn i ryw ffrynd
I droi i mewn i’r tŷ,
I gael ymgom am hanner awr
O hanes dyddiau fu,
Cyn dechreu siarad gylch y tân,
Na phrofi unrhyw saig,
Fe gymer imi hanner awr
I introdiwsio’r wraig.
Dyna’i hewyrth, &c.

Mi eis i’r dref yn fore ddoe
Yng nghwmni Sion y Graig,
A dyma’m hunig neges i
Oedd prynnu watch i’r wraig;
Pan rois yr oriawr yn ei llaw,
Dywedai ’mhen rhyw hyd,—
"A brynsoch chwi ddim pob ’i watch
I’m perthynasau i gyd?"
Prynnu watch i’r lot i gyd?