Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwaith-Mynyddog-Cyfrol-2.djvu/25

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Cyn mynd at allor llan y plwy,
Fel hyn gofynnai'r fun,—
"Mae gennyf fam a phedair chwaer
Sy'n anwyl iawn gen i,
A gaiff y rhain, wrth fegio'n daer,
I gyd fyw gyda ni?"
Ond os ceisia dyn, &c.

AWN, AWN I'R GAD

(Canig gan Gwilym Gwent)

Awn, awn i'r gâd,
Awn, awn yn awr;
Awn dros ein gwlad,
Awn, awn yn awr;
Calon y dewr
Gura yn gynt,
Baner a chledd
Sy'n chwyfio yn y gwynt;
Blaenor y llu
Sy'n arwain i glôd,
A geiriau o dân
O'i enau yn dod.

Seren y goncwest sy'n gwenu fry
Dros ein hanwyl wlad;
Cael tynnu'r cledd sydd wledd i ni.