Tudalen:Gwaith-Mynyddog-Cyfrol-2.djvu/28

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ENWAU

Mi ganaf gân mewn cywair llon,
Os gwrendy pawb yr un,
Rhyw gân ar enwau ydyw hon,
Ond heb gael enw ei hun;
Mae rhai'n rhoi enwau mawrion, hir,
Ar hogiau bychain, mân,
Ond dyma'r enwau sy'n mhob sir
Trwy Gymru yw Sion a Sian,—
Sian Jones, &c.

Mae'r Sais yn chwerthin am ein pen
Fod Taffy i'r back bones,
Am alw plant hen Gymru wen
Yn John a Jenny Jones;
Mae Smith a Brown a John a Jane
Yn Lloegr bron mor llawn,
Ac O! mae enwau'r Saeson glân
Ag ystyr ryfedd iawn.

'Roedd Mr. Woodside gynt yn byw
Yn High Street Number Ten,
Cyfieithwch hynny i'r Gymraeg
Mae'n Meistar Ochor Pren;
'Roedd Squiar Woodall gynt yn byw
Ym mhalas Glan y Rhyd,
Os trowch chwi hynny i'r Gymraeg,
Mae'n Sgwiar Pren i Gyd.

'Dwy'n hoffi dim o'r arfer hon
A geir yng Nghymru iach,