Tudalen:Gwaith-Mynyddog-Cyfrol-2.djvu/36

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

WELWCH CHWI FI?

Mi glywsoch y testyn a welwch chwi V,
A chân arno hefyd cyn clywed f'un i;
Os ydyw y pwnc yn un diflas a thrist,
Rhoed pawb sy'n diflasu ei fŷs yn ei glust;
Os na fydd y gân o un diben i chwi,
Trowch yma a sylwch a welwch chwi V.
A welwch, &c.

Mae ambell i sgogyn yn tramwy trwy'r fro,
A balchder a hunan yn byw arno fo,
Mae starch yn ei gefn, a rhew yn ei warr,
A chuddia ei hunan yn mwg ei sigar;
Ysgydwa'i ffon geiniog wrth gerdded mewn bri,
A thala am fwg i ddweyd welwch chwi V.
A welwch chwi V,
Uchelgais ei fywyd yw "Welwch chwi fi?"

Mae hithau'r ferch ieuanc yn gwneud gwallt ei phen
Fel math o ryw golofn fry fry yn y nen,
A het ar ben hynny, a rhosyn ar hon,
A phluen ar hynny i fyny fel ffon;
Prin gwelir y top heb gael telescop cry',
Ond gwelir mai'r diben yw "Welwch chwi fi?"
A welwch chwi fi?
Arwyddair y ffasiwn yw "Welwch chwi fi?"

"A welwch chwi fi?" meddai llawer gŵr mawr,
"A welwch chwi finnau?" medd y bychan ar lawr;
Mae hynny yn dangos yn amlwg, wrth gwrs,
Mai nid yn y dillad ac nid yn y pwrs