Tudalen:Gwaith-Mynyddog-Cyfrol-2.djvu/53

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

IFAN FY NGHEFNDER.

Dyma godl yn dwbl odli;
'E wnes y prawf o ran
spri.

Aeth Ifan fy nghefnder yn ysgafn ei droed,
Ryw noson i hebrwng ei Fari;
A phan wrth y gamfa sy'n troi at Ty'n Coed,
Fe daflodd ei fraich am ei gwarr hi.

Ond cyn iddo prin i gael amser i ddweyd,—
"Pa bryd caf dy weled di eto?"
Na gwybod yn hollol pa beth oedd o 'n wneud,
Aeth awel o wynt gyda'i het o.

A phan oedd o 'n rhedeg a dim am ei ben,
I geisio, a ffaelu dal honno,
Fe welai ar ol dod yn ol at ei wen
Fod y ci wedi dianc â'i ffon o.

Heb hidio rhyw lawer am het nag am ffon,
Siaradai â Mari'n ddi-daro;
Ond cyn iddo ddechreu cynhesu ei fron,
Fe drawodd rhyw stitch yn ei warr o.

"A ddoi di, f'anwylyd," dywedai yn syn,
"I chwilio am fodrwy'n ddioedi?"
Ac er mwyn rhoi sêl ar ddywediad fel hyn,
Fe sangodd y brawd ar ei throed hi.

"A wnei di roi ateb, O Mari, fy mun?"
A'i gruddiau ddechreusant a chochi;
Ac Ifan nesaodd at Mari fel dyn,
A rhoddodd ddau gus ar ei boch hi.