Tudalen:Gwaith-Mynyddog-Cyfrol-2.djvu/73

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"O na chawn ei weled," atebai y fam,
"Y morwr achubodd fy mhlentyn rhag cam,
Cai ddiolch fy nghalon am achub o'r lli.
Yr hwn sy'n anwylach na mywyd i mi."
"Myfi yw y gŵr," ebe llais yn y ddôr,
"Achubodd y bachgen rhag marw'n y môr,"—
"Fy Nuw!"—ebe Mari, pan welodd y dyn,
A syrthiodd i freichiau ei phriod ei hun.
Dechreuwyd a holi ac adrodd mor hŷ,
A'r tri yn cydwylo wrth ddweyd sut y fu,
Y tad yn rhoi darlun o droion y daith,
A'r fam yn rhoi darlun o'i phryder tra maith.

'Mhen awr, fe ddaeth cenad i'r bwthyn dinam
At Mari yn dweyd fel bu farw ei mam;
Y clefyd ddadglodd gloion rhydlyd ei serch,
A phwnc ei myfyrdod oedd Mari ei merch,
"Rwy'n maddeu i Mari fy merch," ebe hi,
A deigr edifeirwch yn treiglo yn lli;
A neidiodd o'i gwely, ac allan yr aeth,
A chodi ei dwylaw i'r nefoedd a wnaeth,
Ar drothwy y drws lle cilgwthiodd ei merch,
Am roi ei deheulaw lle rhoddodd ei serch;
Gweddiodd yn daer am faddeuant yr Iôr,
Ac yno bu farw ar drothwy y ddôr.

Bu'r morwr a Mari am flwyddau hir, hir,
Yn byw mewn dedwyddwch dan awyr serch clir,
A William a dyfodd yn addurn i'w wlad,
Yn eilun ei fam, ac yn bopeth ei dad.

—————————————

Y sexton ar hynny eisteddodd i lawr,
A'r tân oedd yn llosgi yn isel yn awr;
Aeth pawb tuag adref 'rol cael y fath wledd,
Aeth yntau i'r fynwent i dorri y bedd.