Tudalen:Gwaith Alun.pdf/24

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Cymru ben baladr ffladr fflwch
Heddyw sydd eisiau heddwch;
Rhoddi Llywiawdwr addwyn,
Nwyfre maith, wnaf er ei mwyn;
Un na's trina es'roniaith,
Na swn gwag Seisonig iaith;
Fe'i ganwyd ar dir Gwynedd,
Dull Sais, na'i falais, ni fedd;
Addefir ef yn ddifai,—
Ni ŵyr un fod arno fai
Yn fwynaidd gwybod fynnwn,
Beth wnewch? Ufuddhewch i hwn?"

* * * * *

Cydunent, atebent hwy,—
"Ymweledydd mawladwy,
I'n cenedl rhyw chwedl go chwith
Ydyw geiriau digyrrith;
Cymru wech,—nis cymrai hon
Lyw o astrus law estron;
Ond tynged a brwnt angen,
A gwae ei phobl, blyga'i phen
Llîn ein llon D'wysogion sydd
'Leni mewn daear lonydd
Rho di'r llyw cadarn arnom
A dedwydd beunydd y b'om—
Enwa 'nawr, er union waith,
Y gwr del wisga'r dalaith,
'Nol cyfraith, fel b'o rhaith rhom,
Na thyrr ing fyth awr rhyngom
Ie, tyngwn, at angau,
Yn bur i hwn gwnawn barhau."

Fulion! ni wyddent falais,
Dichellion, na swynion Sais.