Tudalen:Gwaith Alun.pdf/61

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Trwst y main, a'r ubain rhwydd
Dwys, a dorrai'r distawrwydd.
Yna'r gynulleidfa'n llon
Ddychwelent—(gwedd a chalon
Eto'n awr yn gytun oedd,)
Law yn llaw, lonna lluoedd.


Cyrraedd Ystrad Alun

Dau gennad gwyn! Wedi gwyl
Hwy gyrchent at eu gorchwyl.
Llafurient â'u holl fwriad,
Dan Iôr i oleuo'r wlad;
A'i dwyn hi dan ordinhad
Da reol, o'i dirywiad;
Dan y gwaith heb lid na gwg,
Trwy erlid, ymlid amlwg,
Doent wrth deithio bro a bryn,
I olwg Ystrad Alun;
Elai'r gwyr, gan eilio'r gân,
Drwy Faelor, oror eirian.
Hwyr hithau ddwyrai weithion,
Llwydai fry ddillad y fron;
Ucheron,[1] uwch ei chaerydd,
A'i t'wysai, pan darfai dydd;
Y lloer, a'i mantell arian,
Ddeuai un modd, yn y man;
Daeth o le i le fel hyn
Y faith yrfa i'w therfyn;
Nawdd Ior, ac arweinydd ddug
Y rhwyddgraff ddau i'r Wyddgrug
Lletyent mewn lle tawel,
Trigle dêr a mangre mêl;

  1. Hesperus, the evening star.