Tudalen:Gwaith Ann Griffiths CyK.pdf/10

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ANN GRIFFITHS.

"Ioan ap Huw, athraw ysgol Gymraeg, a bia', llyfr hwn, 1800," sydd ar ddechreu'r ysgriflyfr. Ar ol hymnau a chofnodion seiadau hyd at Ion. 20, 1801, daw'r ddau lythyr hyn.

[Copi o lythyr gefais oddiwrth un o bererinion Seion, mewn ffordd o atebiad i lythyr a ddanfonais.]

Tachwedd 28, 1800.

GAREDIG FRAWD,— Cefais hyn o gyfleusdra i anfon attoch yr ychydig leiniau hyn, er mwyn dangos fy mharodrwydd i dderbyn ac atteb eich llythyr sylweddol, fel ac yr wyf fi yn cwbl gredu mae yn Maes Boaz y bu i chwi loffa'r tywysenau llawn a bendithiol a ddanfonasoch imi, gan fy ngorchymyn i'w rhwbio ac ymborthi arnynt, ac wyf fi yn meddwl iddynt gael cimaint o effaith ar fy meddwl a gwneuthur imi ocheneidio am y Graig. Oblegid nid allasech anfon dim mwy perthynasol i fy nghyflwr i, yr hyn oedd eich amcan, am y gwyddech fwy o'm hanes yn mhob trieni na neb arall. Mae'n dda dda genif glywed am eich parhad mewn myfyrdod ar eich cyflwr ac yn y Gair, ac mi a ddymunwn eich llwyddiant yn y cwbl.

Am danom ni yn y Bont, o ran iechyd corphorol fel arferol, ac o ran ysbrydoedd y mae'r asossiat fel corph llawn mwy deffrous, a'r weinidogaeth tan arddeliad yn gyffredinol.

Nid oes genif fi yn bresenol nemawr i'w ddweud am neb personau yn neillduol, ond byddai dda genif adrodd fy helynt fy hun. Cefais rai treialon