Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwaith Ann Griffiths CyK.pdf/36

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Bywyd myrdd o safn marwolaeth
A gafwyd yn ei angau dryd.

3. Arogli ’n beraidd mae fy nardus
Wrth wledda ar y cariad rhad,
Zel yn tanio 'n erbyn pechod,
Caru delw santeiddhad;
Tori ymaith law a llygad,
Ynghyd ag uchel drem i lawr,
Neb yn deilwng o'i dderchafu,
Onid Iesu,'r brenhin mawr.

4. O am fywyd o sancteiddio
Sanctaidd enw pur fy Nuw,
Ac ymostwng i'w ewyllys
A'i lywodraeth tra fwyf byw ;
Byw dan addunedu a thalu,
Byw dan ymnerthu yn y gras
Sydd yNghrist yn drysoredig,
I orchfygu ar y maes.

5. Addurna 'm henaid ar dy ddelw,
Gwnaf fi'n ddychryn yn dy law,
I uffern, llygredd, annuwioldeb,
Wrth edrych arnaf i gael braw;
O am gymdeithasu â'r enw,
Enaint tywalltedig yw,
Yn hallt i'r byd, gan bêr aroglau
O hawddgar ddoniau eglwys

O AM gael ffydd i edrych

HYMN 6.

1 O AM gael ffydd i edrych
Gyda'r angylion fry,
I drefn yr iechydwriaeth,
Dirgelwch ynddi sy;
Dwy nattur mewn un person
Yn anwahanol mwy,
Mewn purdeb heb gymmysgu,
Yn berphaith hollol trwy.