Tudalen:Gwaith Ceiriog.pdf/115

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Fod i'r holl fechgyn fyned
I'w magu ganddi hi:
Ac i'r genethod ddyfod
O dan fy ngofal i.
'R oedd hi yn ymwahanu,
Ac felly'n canu'n iach;
Ond hoffai roddi cusan
Ar wefus Enid fach.

A thrannoeth hi ddychwelodd
I ddwyn y rhwyg i ben:
Ond O! fe dorrodd dagrau
O eigion calon Men;
Cymerodd Arthur afael
Am wddf ei fam a fi,
Ac fel rhyw angel bychan,
Fe'n hailgymododd ni.

XXI

Wyddoch chwi beth, mae ffraeo
Yn ateb diben da;
Pe na bai oerni'r gauaf
Ni theimlem wrês yr ha;
Pe na bai ymrafaelio,
Ni byddai'r byd ddim nes,
Yn wir mae tipyn ffraeo
'N gwneyd llawer iawn o les.


XXII

Awel groes ar fy oes godai'n gryf wedyn,
Daeth i mi adwyth mawr, clefyd, a thwymyn:
Rhoddai mhlant ddwylaw'n mhleth, ogylch
fy ngwely,
Minnau'n fud welwn fyd arall yn nesu.
Is fy mhen, ias fy medd deimlais yn dyfod,
A daeth ofn, afon ddofn, ddu i'm cyfarfod;
Ond'roedd grudd ar fy ngrudd, ar yr awr ddua,
A rhoi gwin ar fy min ddarfu fy Menna.