DYDD TRWY'r FFENESTR
Alaw,—Dydd Trwy'r Ffenestr
Mae rhyddid i wylan y môr gael ymgodi,
Ac hedeg i'r mynydd uchelaf ei big;
Mae rhyddid i dderyn ar greigiau'r Eryri
Ehedeg i waered i weled y wîg;
O rhowch imi delyn, gadewch imi dalu
Croesawiad i Ryddid ar doriad y dydd;
Yfory gyda'r wawr, byddwn ninnau'n rhydd,
Byddwn yn rhydd!
Yfory pan welir yr haul yn cyfodi,
Caf deimlo llawenydd na theimlais erioed;
Ac fel yr aderyn yng ngwlad yr Eryri
Yn ysgafn fy nghalon, ac ysgafn fy nhroed;
Pan welom oleuni yn gwynnu'r ffenestri,
Rhown garol i Ryddid ar doriad y dydd;
Yfory gyda'r wawr, byddwn ninnau'n rhydd,
Byddwn yn rhydd!
CERDDI CYMRU SYDD YN BYW
Cerddi Cymru sydd yn byw,
Trwy'r blynyddau yn ein clyw;
Sibrwd ein halawon gynt,
Mae cwynfanau trwm y gwynt;
Dwyn yn ol lais mam a thad
Mae hen donau pur ein gwlad.
Pan sisialo dail y llwyn,
Clywir chwi yn lleddf a mwyn;
Dweyd mae'r môr wrth ruo'i gân
Ddarnau cerddi Cymru lân;
Ac mae clust y Cymro'n gwneyd
I'r gre'digaeth oll eu dweyd.