Tudalen:Gwaith Ceiriog.pdf/62

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

CLADDEDIGAETH MORGAN HEN

Hen frenin hoff anwyl oedd Morgan Hen,
Fe'i carwyd yng nghalon y bobloedd;
Esgynnodd i'w orsedd yn ddengmlwydd oed,
A chadwodd hi gant o flynyddoedd.
Ar ddydd ei gynhebrwng dilynwyd ei arch
Gan ddengmil o'i ddeiliaid tylodion;
A theirmil o filwyr fu'n ymladd o'i du,
Ac wythcant o'i ddisgynyddion,
Rhai wrth eu ffyn, a'u gwallt yn wyn,
Eraill ar fronnau yn dechreu byw;
Wyrion, gorŵyrion, a phlant gorŵyrion
Gladdasant y brenin yn Ystrad Yw.

Ni welwyd un blewyn yn wyn ar ei ben,
Na rhych ar ei dalcen mawr llydan;
'R oedd deuddeg o'i feibion yn edrych yn hŷn
Na'r brenin oedrannus ei hunan.
Yn nhorf ei gynhebrwng'roedd bachgen bach mwyn,
Yn drist a phenisel yn twyso
Y march heb ei farchog—y cyfrwy, a'r ffrwyn,
A'r cleddyf yn unig oedd yno.
Rhai wrth eu ffyn, a'u gwallt yn wyn, &c.

Fe welodd ryfeloedd, bradwriaeth, a thrais,
A gwelodd Forgannwg yn gwaedu;
Ond cadwodd ei goron, a'i orsedd yn ddewr,
A'i diroedd tan faner y Cymry.
Enillodd a chollodd mewn brwydrau dirif,
Am hynny ni chollodd un deigryn;
Ond ar gladdedigaeth ei filwyr, a'i blant,
Fe wylai, fe griai fel plentyn.
Rhai wrth eu ffyn, a'u gwallt yn wyn, &c.