Tudalen:Gwaith Ceiriog.pdf/68

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Mae'n gyfan, mae'n brydferth, heb gymorth y gemau,
Arwyddnod perffeithiach y ddaear ni fedd;
Does dim eill ei thorri ond pladur lem angau,
Na dim eill ei rhydu ond lleithder y bedd.

Cymer hi, cymer hi, ofer yw rhwystro,
Dyferwlaw'r amrantau rhag tywallt i lawr;
Mae'n storm gyda minnau, gad imi tra dalio,
Roi'm pen ar dy ysgwydd—rwy'n well Annie'n awr.
Mae'th ddeigryn fy nghariad, a'm deigryn bach innau,
Yn uno fel gwlithos neu fân arian-byw—
Ond moes imi'r fodrwy, ti cei hi'n y boreu
Yng ngwyddfod yr allor, y Beibl, a Duw.

O WEDDI DAER

(O "Jona.")

O weddi daer! gwyn fyd y fron
A fedro dy anadlu,
Yng nghalon edifeirwch gwir
Y cuddiodd Duw dy allu;
Yr isel lwch yw'th gartref di,
Ac mewn sachlian gwisgi,
Gwyn fyd y llais crynedig gwan
Dywallto'i hun i weddi.

O weddi daer! tramwyfa wyt
I lu o engyl deithio
I lawr i'r dyfnder at y gwan,
I roi eu hedyn trosto,—
I wlychu gwefus oer y llesg,
A gwin a'i calonoga;
O ddyn! os tynni ŵg y nef,
Dos ar dy lin—gweddia.