Edn diddan, a gân ar gyll, Ymwisgiad angel esgyll, Odid ydoedd i adar Paradwys cyfrwys, a'i câr, O dre iawn-gof drugan-gerdd. Adrodd a ganodd o gerdd. Adwaen ef, o'i fedw nwyfoed, Awdwr cerdd adar y coed.