Tudalen:Gwaith Dafydd ap Gwilym.pdf/82

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

O berth i berth, drafferth drwch,
O lwyn i lwyn anialwch;
Glân dy dro, o glyn dy droed
Mewn magl yn min mei-goed,
Na fydd aflonydd dy lam
Wrth gryngae'r groglath gringam,
Tyn yn lew oddiam d' ewin,
A'th ddurun cryf, wyth-rawn crin.

Disgyn heddyw yn Rhinwallt,
Is ty gwen, ys teg ei gwallt;
Mynag, edn o'r mynydd,
Fy mraw caeth, fy mriwiau cudd;
Gwybydd, er delw Gybi,
Ai cywir meinir i mi;
Gwyl ei thro, gwylia, a thrig
Yno, aderyn unig;
Nid llai y cerid ei llun,
A'i glwysfryd ar y glasfryn,
Mwy na phan fu gu ei gwedd
Yn forwyn deg dan fawredd;
Pair i'm lloer, o pur i'm llas,
Garu ei bardd, gŵr heb urddas.

O'i haros bum yn oeri,
Aeth arall, hoew-gall, a hi;
Rhy-oer fu awel rhew-wynt,
I'w gwylio hi, gwaela hynt;
Gwir a gânt, gwarant gwiwras,
Y rhai gynt, er rhyw gas,
"Pren yng nghoed," mawroed yw'r mau,
"Arall a bwyall biau."