Brychodd hoff gynnyrch y llennyrch llawnion,
Ebrwydded darfu pob irwydd tirfion;
Ad-dyfodd llysiau a sawriau surion,
Yr ysgall ydynt,—pob rhyw hesg llwydion,
Lle yr oedd balm a phren almon—edrych
Meryw a bresych, a mwyar breision.
Dwyn dail marwol danadl a mieri,
Pob grawn gwylltion yn drawsion, a d'rysi;
Yn lle balalwyf, mewn lle bu lili,
Abrwysgl anial wigau, a brysglwyni,
O fewn y rhain fwy na rhi'—wiberod,
Pob rhyw wylltfilod hynod i'w henwi.
Lliaws cain hynaws cyn hyn, —o dda
A roed i Adda ar ei dyddyn,
Yma wele pob milyn—a aeth
I ddynoliaeth heddyw yn elyn.
A gwŷn newyn, gan awydd,
Rheibiant a rhwygant yn rhydd;
Yn lle llysiau blodau blydd,—goddifa,
Llewa eu gwala oll o'u gilydd.
Adda yn udd aneiddil,
A fu yn maethu pob mil;
Wedi hyn o gnawd ei hil,—aml yma,
Bu westfa pob bwystfil.
Ond er cynddrwg y gwg oll,
Wedi'r anffawd ar un ffull,
Nid aeth dyn gwedyn yn goll,
O nawdd Ion:—ar newydd ddull.
Dacw Addaf, gyntaf gwr,
Yn fore yn llafurwr;
Deol surwellt y felldith,
Cloddio a cheibio sy chwith;