Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwaith Dewi Wyn.djvu/68

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Crugo yn gymysg, cregyn a gwmon,
Prynu a gwerthu pob rhyw hen garthion,
Lludw a marliau llwydion,—prif faethau,
Er dwyn pob cnydau'n llwynau mwy llawnion.

Cloron ac Erfin.

Trin cloron gleision eu gwlŷdd,
Gyrru mwswg o'r meusydd;
Hau erfin a'u trin, nid trwm,
Digoll, heb doll na degwm;
Gorfod a gwy wo erfin,
Ni all rhew, hyll waew'r hin.

Cnau.

O weundir cynhyrchir cnau,
I'r amaeth, gwerthfawr emau;
Bwrw yn lle brwyn a llaid,
Afalau'r anifeiliaid.

Newid Blodau.

Amaethiad da dyma dir,
Hau meillion mwy a ellir:
Lle bu gawn, a phlu gweunydd,
Daw dail, a llygaid y dydd.
Er cael dan aradr ac ôg,
Burŷd o dud gwlybyrog,
Cloddio a rhwygo rhigol,
Arwain dŵr o waen a dôl;
A diodi'r sychdir sâl,
O'r llynnoedd a'r lle anial;
Ail yn Eidal neu Eden,
Neu ail swydd y Nilus hen.

Rhannu anghyfiawn.

Yn Mrydain, er mor odiaeth,—O gresyn!
Yn groes i wybodaeth,
Ni wadaf, gwelaf er gwaeth,
Radd o wall ar ddiwylliaeth.