"Cofiadur, mur Gomeriaith,
Yw Glan y Gors.—gleiniawg waith."
m mharlwr goreu y "King's Head " y cynhaliai y Gwyneddigion eu cyfarfodydd; a phwy fedr ddychmygu y mwynhad a gai gŵr o duedd ac asbri lawen a brwdfrydig fel Glan y Gors pan eisteddai y cwmni difyr o brif lengarwyr Cymreig y Brifddinas o dan ei gronglwyd gynnes, gysurus? Ymgasglent yma o bob cwrr, ac yn eu plith gwelid y Doethawr William Owain Pughe; Owain Myfyr; y Bardd Cloff; Huw Morys, neu Maurice; Thomas Roberts, Llwynrhudol, a gwŷr ereill o nod. Weithian, byddai Twm o'r Nant, Bardd Nantglyn, ac Iolo Morgannwg yn eu mysg. Yn wir, bu'r ddau gyntaf hyn yn llenwi'r swydd o gofiadur pan yn aros yn Llundain. Yma y byddent yn barnu (ac yn cam—farnu yn fynych) gynyrchion y beirdd o hen wlad eu tadau, yn penderfynu y gwobrwyon, yn dewis testynau, ac yn brŵd—ddadleu, hyd oriau hwyrol, ar eu pwys.
Yn y cyfamser, oherwydd rhyw anealldwriaeth, sefydlwyd Cymdeithas newydd yn Llundain, sef y Cymreigyddion," a phan yn trefnu i ddwyn. Y Greal allan yn 1804, dewisodd y Gwynedd— igion" y Dr. W. O. Pughe a'r Bardd Cloff, a dewisodd y "Cymreigyddion" John Jones, Glan y Gors, a Humphrey Parri (gynt o'r Cwm Mawr, Clynog), i'w gydolygu. Oherwydd ystyfnig— rwydd W. O. Pughe ac Owain Myfyr—yn bennaf, gyda phwnc yr orgraff, gomeddodd y Cymreig— yddion ymuno à hwynt i'w ddwyn ymlaen.[1]
- ↑ +Gwel eglurhad Glan y Gors ar y mater, yn ei lythyr, yn y gyfrol hon.—GOL.