Tudalen:Gwaith Glan y Gors.djvu/42

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

MAWLGERDD Y DUC O NORFFOLC.[1]

The following verses were composed on the occasion of the
Duke of Norfolk dining with the Society of Antient Britons
on St. David's Day. After dinner. his Grace, in a neat and
appropriate speech, informed the Society he had the honour
of being a descendant from our noble Welch patriot Owain
Glyndwr.

HOLL feirddion urddasaol sydd beunydd yn bod
I'r gwych Dduc o Norffolc yn glonnog rhowch glod,
Am ddweyd, yn ardderchog ddyn talog, fel tŵr,
Ei fod o waedoliaeth ein Owain Glyndwr.
Wel, dyna hen Gymro fu'n llunio gwellhad,—
Un hynod o fedrus i 'mddiffyn ei wlad;
Ei wyr, gyda'u saethau yn gwau yn y gwynt,
Ddiffoddodd orthrymder, hen gaethder oedd gynt.
Fe gododd y Brenin, a'i fyddin oedd fawr,
Ar fedr lladd Cymru, a'i llethu i'r llawr;
Nid oedd ganddo gwedyn i'w ganlyn un gwr
Oedd deilwng i daro ag Owain Glyndwr.
Rhyfela am gyfiawnder, a'i hyder ei hun,
[O, ryfedd !) am ryddid gadernid y dyn;
Mae'n gwladwr o Norffole,—un enwog iawn wr,
O ran meddwl yn debyg i Owain Glyndwr.


  1. Ymddangosodd y gân yn "The Sporting Magazine," am 1796, a Dygwyl Dewi Sant y flwyddyn honno yr anrhydeddodd ei Ras y Duc o Norffole y Gymdeithas A'i bresenoldeb. Ym— ddangosodd eilwaith yn The Chester Chronicle," am 1802, ac o dani——"J. J. (Glangors), Llundain, Mawrth 15fed, 1802.)