Tudalen:Gwaith Glan y Gors.djvu/7

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Rhagymadrodd.

WEDI cynnwrf rhyfeloedd y ddeunawfed ganrif, ac yng nghanol y rhyfel mawr yn erbyn Napoleon, dechreuodd Prydain anghofio cyfiawnder a rhyddid.

Tybiodd llawer fod gwawr oes euraidd y byd yn torri gyda Chwyldroad Ffrainc yn 1789. Ond collodd y chwyldroadwyr gydymdeimlad y byd pan droisant eu dwylaw at lofruddiaeth yn ffyrnigrwydd eu cynddaredd, a phan gymerodd Napoleon fantais ar ddeffroad Ffrainc i geisio darostwng cenhedloedd Ewrob. Ac yn y siomiant hwnnw trodd Prydain yn ol, oddiar lwybrau rhyddid, ac ymgreulonodd ei hysbryd o'i mewn. Prin y mae amser mor orthrymau yn ein hanes a'r adeg rhwng y Chwyldroad yn Ffrainc a Deddf Rhyddfreiniad y Bobl yn 1832.

Yr oedd y brenin wedi adfeddiannu gallu gormesol, ac yr oedd Sior III.— gŵr ag ynni gwallgofddyn yn ei wrthwynebiad i ryddid,— wedi gadael ei orsedd i Sior IV., un o'r creaduriaid aflanaf a mwyaf direswm eisteddodd ar orsedd erioed. Yr oedd y gwladweinydd, ar arch y brenin, yn gorfod ymladd yn erbyn rhyddid. crefyddol; yr oedd gwlad fawr Amerig wedi ei cholli oherwydd cyndynrwydd y brenin, yr oedd yr Iwerddon ar fin gwrthryfel. Yr oedd y werin yn ymyl newyn, ond cauid y porthladdoedd fel na chaent ymwared. Yr oedd Deddf y Tlodion yn