Tudalen:Gwaith Goronwy Owen Cyf I.djvu/17

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Mari fwyn, mawr yw f' annwyd;
Oer ydyw, O clyw o'th clwyd;
Mawr yw fy nghur, lafur lwyth,
Deffro, gysgadur diffrwyth."
Galwad, ond heb ateb oedd;
Mudan fy nyn im' ydoedd.
Symudaw 'n nes a madws,
Cyrraedd dôl dryntol y drws,
Codi 'r glicied wichiedig,
Deffro porthor y ddor ddig,
Gan ffyrnig wŷn uffernol
Colwyn o fewn, cilio 'n f' ol.
O'r barth yn cyfarth y caid,
Ail agerdd tân o'i lygaid,
Chwyrn udaw, Och! oer nadu.
Yn ddidor wrth y ddor ddu.
Yno clywn swrth. drymswrth dro,
Goffrom, rhwng cwsg ac effro,
Bram uchel ac, ni chelaf,
Erthweh fal yr hwch ar haf;
A beichiaw a'm bwbachai,
Ac annog ci heriog,—"Hai!"
Llemais à mawr ffull ymaith
Yn brudd wedi difudd daith;
Ac anferth gorgi nerthol,
Llwyd, yn ymysgwyd o'm hol.

ENGLYN AR DDYDD CALAN.

[1745, dydd genedigaeth y bardd.]
HVNT croes fu i'm hoes o hyd,—echrysawl,
A chroesach o'm mebyd;
Bawaidd fu hyn o'm bywyd;
Ond am a ddaw—baw i'r byd.