Tudalen:Gwaith Goronwy Owen Cyf I.djvu/30

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

Goronwy Owen.
Mynych y ffromai meinwen
Wrth edrych ar wrych yr en;
Difudd oedd ceisio 'i dofi :
"Ffei o hon, hwt!"-ffoi wnai hi.
Caswaith, er däed cusan,
Ymdrin â merch â'm drain mân;
Briwo 'i boch wrth ei llochi;
Och! i'r rhawn; ac ni châr hi ;
Ac aflwydd el â'r goflew;
Sofl a blyg, ond ni syfl blew.
Cas gan feinwar ei charu,
O waith y farf ddiffaith, ddu.
Pwn ar en, poen i wr yw,
Poenus i wyneb benyw ;
Pleidwellt na laddai pladur,
Rhengau o nodwyddau dur.
Dreiniach, fal pigau draenog,
Hyd en ddu fal dannedd og;
Brawsgawn, neu swp o brysgoed ;
Picellau fal cangau coed;
Ffluwch lednoeth, yn boeth na bo!
Gwyll hyllwedd, gwell ei heillio
Ag ellyn neu lem gyllell,
Farf ddiffaith! ni fu waith well.
Ond gwell, rhag y gyllell gerth,
Ennyn gwale yn wen goelcerth;
Mindrwch gwiltwr gweindrwch, gwândrwm ;
Dyrnwr a'i try, dwrn hwyr trwm ;
Ellyn à charn cadarn coch,
Hwswi bendrom sebondroch,
Tan fy marf, ar bob arfod,
Y rhydd ei hanedwydd nod-
Briw cyfled â lled ei llafn,
Llun osgo llaw anysgafn;