Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwaith Goronwy Owen Cyf I.djvu/36

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

er pan ysgrifennais atoch o'r blaen, na buaswn yn gyrru i chwi "Gywydd y Farn." Nis gwn, pe crogid fi, pa fodd y bu hynny o wall arnaf; eithr boed sicr gennych mai nid anewyllysgarwch oedd yr achos, ond byr feddwl. Tybio wnawn i, fal hurtyn, mai amgenach fyddai gennych ei gael yn argraffedig; heb ystyried mai unig gymeradwyaeth yr anrheg oedd hanfod o honaw o law yr awdwr. Ba wedd bynnag, os rhynga fodd ichwi esgusodi hynny o esgeulusdra, llyma for ichwi yn awr fal y mae gennyf finnau, trwy "ei law a'i loewon," fal y dywedynt.

CYWYDD Y FARN.

OD im dy nawdd a hawdd hynt,
Duw hael, a deau helynt;
Goddau f' armerth o'm nertbyd
Yw Dydd Barn a diwedd byd;
Dyddwaith; paham na 'n diddawr
Galwad i'r ymweliad mawr?
Mab Mair a gair yn gwiriaw
Y dydd ebrwydded y daw;
Ai saint cytun yn unair
Dywedant, gwiriant y gair;
A gair Duw 'n agoriad in',
Gair Duw a gorau dewin;
Pa'nd gwirair y gair a gaf,
lach rad! a pham na chredaf?
Y dydd diogel y daw,
Boed addas y byd iddaw!
Diwrnod anwybod i ni
A glanaf lu goleuni;
Nid oes, f' Arglwydd, a wyddiad
Ei dymp, onid ef a'i Dad.