Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwaith Goronwy Owen Cyf I.djvu/41

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Boed im' gyfran o'r gân gu,
A melused mawl IESU!
CRIST fyg a fo 'r Meddyg mau!
Amen!—a nef i minnau.

Wele dyna i chwi "Gywydd y Farn," ac odid na fydd ryfedd gennych, wedi gweled y gwaith, gael o hono gymaint cymeriad yn y byd. Ond os mawr iawn ei gymeriad, mwy yw 'r genfigen gan rai wrtho. Os nad ych yn dirnad paham y rhoddwyd y geiriau hyn yn ei ddiwedd:—

"Crist fyg a fo'r Meddyg mau;"

gwybyddwch mai claf, a thra chlaf, o'r cryd oeddwn y pryd y dechreuais y Cywydd, ac hyd yr wyf yn cofio, meddwl am farw a wnaeth imi ddewis y fath destyn.

Os chwychwi a fynnwch weled ychwaneg o'm barddoniaeth, gadewch wybod pa ddarnau a welsoch, rhag imi yrru i chwi y peth a welsoch o'r blaen, ac yna mi yrraf i chwi gywyddau o fesur y maweidiau. Yr wyf yn dyall fod yr hen Frutaniaid yn bobl go gymdeithgar yna yn Llundain; ond pa beth a ddywaid yr hen ddihareb? "Ni bydd dyun dau Gymro." "Non erunt consentientes duo Cambri." Gobeithio, er hynny, nad gwir mo bob dihareb; ac os e, mai nid dihareb mo hon, ond rhyw ofer chwedl a dychymyg rhyw hen wrach anynad, ymladdgar. Digon gweddol a thylwythgar y gwelais i hynny o Gymry a gyfarfum i â hwynt yn Lloegr.

Os tybiwch yn orau, chwi ellwch ddangos "Cywydd y Farn" i rai o'ch brodyr yn y cyfarfod misawl nesaf; yn enwedig i Huw Davis, neu 'r cyffelyb, a fo 'n hanfod o'n gwlad ni ein