Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwaith Goronwy Owen Cyf I.djvu/43

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

chwi yn dyall yr ieithoedd hynny, ac os felly, mi a wn i yn swrn dda anwyled y gall fod gennych y llyfrau. Mae gennyf fi yma Fibl, a Salter, a Geirlyfr, a Gramadeg Hebraeg; a dyna 'r cyfan; a da cael hynny. Ond am Arabaeg, ni feddaf lyfr o honi. Gwych a fyddai gennyf gael gwybod pwy yw Siancyn Tomos sy 'n dyall yr ieithoedd dwyreiniol cystal. Gwyn eich byd chwi ac eraill o'ch bath, sydd yn cael eich gwala o ddysg a llyfrau da, ac yn amgreiniaw mewn changder a digonoldeb o bob cywreinrwydd, wrthyf fi a'm bath sy 'n gorfod arnom ymwthio 'n dyn cyn cael llyfiad bys o geudyllau a goferydd dysgeidiaeth. Gwae fi o'r cyflwr!

Ni ddamweiniodd i mi adnabod mo Ieuan Fardd o Goleg Merton; ond mi a glywais gryn glod iddo; a thrwy gynhorthwy Llywelyn Ddu, mi welais ryw faint o'i orchestwaith; a diddadi yw na chafodd mo 'r glod heb ei haeddu. Er ei fod ef yn iau na mi o ran oedran, eto y mae yn hŷn prydydd o lawer; oblegid ryw bryd yn ngwyliau'r Nadolig diweddaf a ddechreuais i; ac oni buasai eich brawd Llywelyn, a yrrodd im ryw damaid o waith Ieuan, ac a ddywed yn haerllug y medrwn innau brydyddu, ni feddyliaswn i erioed am y fath beth. Tuag at am yr hyn yr ych chwi 'n ei ddywedyd, sef—mai Goronwy Ddu o Fon yw pen bardd Cymru oll, mae gennyf ddiolch o'r mwyaf i chwi am eich tyb dda o honof; ond gwir ydyw 'r gwir, yr ydych yn camgymeryd. Llywelyn Ddu yw pen bardd Cymru oll; ac ni weddai 'r enw a'r titl hwnnw ineb arall sydd fyw heddyw. Nid yw Ieuan a minnau ond ei ddisgyblion ef. Pwy a