Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwaith Goronwy Owen Cyf I.djvu/58

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mor hoew odidog yn y byd o'u blaen hwynt. Nid yw cymaint fy rhyfyg i a meddwl y dichon fod ar law dyn o'm bathi ganu iddi fal yr haeddai. Beth er hynny ? "Melusaf y cân Eos, ond nid erchis Duw i'r Frân dewi." Yr asyn a gododd ei droed ar arffed ei feistr, ac nid llai ei ewyllys da ef na 'r colwyn, er nad hawddgar ei foesau. Fe all Bardd Du ddangos ei ewyllys; ac nid all Bardd Cock amgen cyd bai amgen ei gywydd. Os gwyddoch pa le y mae, rho'wch fi ar sathr y brawd Llywelyn Ddu. Yr wyf yn tybio ei fyned i Lundain cyn hyn; ac os felly, yn iach glywed na siw na miw oddi wrtho hyd oni ddychwelo.

Ai byw yr hen Gristiolus wydn fyth? Is the curacy of Llanrhuddlad disposed of? What other curacy is vacant? Waethwaeth yr a'r byd wrth aros yma. Prin y gellir byw yr awrhon—a pa fodd amgen, tra bo'r brithyd am goron y mesur Winchester, a'r ymenyn am saith geiniog, a'r caws am dair a dimai'r pwys? A pha sut y gellir byw tra cynydda'r teulu ac na chynydda'r cyflog? Y llanciau a ant fwyfwy 'r clwt, fwyfwy'r cadach, ac ymhell y bwyf, ie, pellach o Fon nac ydwyf, os gwn i pa 'r fyd a'm dwg. Nis. gwybûm i mo'm geni nes dyfod i fysg y Saeson drelion yma. Och finnau! Mi glywswn ganwaith son am eu cyneddfau, a mawr na ffynasai gennyf eu gochel. Mi allaf ddywedyd am danynt fal y dywaid Brenhines Seba am Solomon, "Gwir yw y gair a glywais yn fy ngwlad fy hun am danynt, eto ni chredais y geiriau nes im' ddyfod ac i'm llygaid weled; ac wele ni fynegasid imi 'r hanner.