Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwaith Goronwy Owen Cyf II.djvu/121

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon


Goldsmith. Wrth ofyn yn 1754 pwy oedd y "brynteion sothachlyd a'r burgynieit gogleddig yn rhagymadrodd Sion Dafydd Rhys, dywed Goronwy. "Cennad i'm crogi onid yw Douglas, fy hen feistr, yn un o'u hepil hwy, neu'n tarddu o'r un grifft"

Drel, 30, churlish
Dryntol, 13. dolen a chlicied drws
Drudfawr, II. 72, llawn arwriaeth; drudion rhai dewr, arwrol. "Cerrig y Drudion."
Drych y Prif Oesoedd, 98; II. 93
Duddel, 70, caled ddu
Dul, II. 45, darn byr
Duryn, II, 20, pig, beak
Dwsmel. 39. 55. dulcimer
Dwyre, 89: II. 72. 76, codi
Dwywes, 89, duwies
Dychleim, 29, llamu mewn arswyd
Dyfydd, II. 17, tyred,
Dyfyn, 30, citation
Dyffo, II. 73, deuo, delo
Dyhedd, 11, 77, llwyr hedd
Dylaith, II. 22, dinistr, marwolaeth
Dyun, 33, unol
Dyw, 12, dydd

E


Ebach, II, 30, congl, agen
Ebrwy, 34, Hebraeg
Ebyr, so, aberoedd
Ebystyl, 31, apostolion
Echwydd, 39, nawn
Edlin, II. 61, aetheling, o lin ardderchog
Edwo, 39. 43. darfyddo, gwywo
Eddyl, II. 49, llwyth, cenedl
Egru, 12, cryfhau, blaenllymu
Ehedfaen, 19, loadstone
Ehudlorf, zo, gwel "llorf"
Eiddun, II. 36, dymuniad
Eirf, II. 28, arfau
Eirian, II. 43, disglaer dlws
Eirchiaid. 11. 63. rhai'n gofyn
Eirioes, II. 70, 83. 85. prydferth
Eirionyn, 98, ymyl brethyn
El Sadai, 11. 55. "Un o enwau Duw yn Hebraeg, yn ateb yn union i'r gair Groeg Pantokrátor yn Datguddiad iv. 8 (cymhared Esay vi. 3), a Hollalluog neu Hollddigonol a arwyddocâ. Cof yw gennyf mewn rhyw ymddiddan â Mr. Lewis Morris y mynnai ef mai Cymraeg oedd ELL SADAI, sef A ALL SYDD DDA; ac yn wir nis gwn pa sut well y gellid ei gyfieithu." G.O.
Elias, W., Plas y Glyn, 19
19 Elin, 22, 34. gwraig Goronwy Owen, merch Owen Hughes, ironmonger, Croesoswallt Priododd yn weddw ieuanc â Goronwy yn Selatyn, Awst, 1747. Nid oedd fawr o fyw ynddi, druan
Elin, merch Goronwy, 86, 110-112; II. 10
Elis Roberts, y cowper o Lanrwst, 69, 100; II. 74. Claddwyd yn Llanddoged, Rhag. 4, 1789. Yr oedd yn hen fardd lled wych, a gwna Goronwy gam a'i goffadwriaeth. "Pan yn hogyn, yn agos i Landdoged yr oedd fy nghartref i ac mi welais un hen ffarmwr oedd yn cofio Elis y Cowper, ac mi glywais hen bobl eraill yn son llawer iawn am dano; ac ni chlywais un o honynt erioed yn rhoi gair drwg iddo." R. GRIFFITH, yn Cymru, XXII. 240