Minnau, poed fel y mynnych.
Dy lun, ai gwrthun ai gwych,
Rhof it' gyngor rhagorawl,
Na ddyd nemawr un i ddiawl.
Gŵr y sy, gwae yr oes hon,
Blaenawr yr holl rai blinion,
Ac yna daw drwy 'th gennad,
Yna rhuthr, onide, 'n rhad;
Canys hyn a fyn fo,
Lewddyn, pwy faidd ei luddio?
Gŵr cestog yw'r taerog tost,
Dinam ti a'i hadwaenost?
A pha raid nod a phryd neb?
Annwn ni dderbyn wyneb;
A godlawd yw coeg edliw.
I'r un ddim o'i lun a'i liw;
Digon o chaid honaid hau,
Gostog ryw faint o'i gastiau.
Dyn yw ond heb un dawn iach,
Herwr ni bu ddihirach;
Gŵr o gynneddf anneddfawl;
Lledfegyn rhwng dyn a diawl:
Rhuo gan wŷn, rhegi wna,
A damio 'r holl fyd yma;
Dylaith i bawb lle delo.
Llawen i bawb lle na bo;
Ofnid ef fel Duw nefawl,
Ofnid ef yn fwy na diawl;
Cofier nad oes neb cyfuwch;
Nid oes radd nad yw SYR uwch.
Marchog oedd ef, merchyg ddiawl,
Gorddwy, nid marchog urddawl.
Tudalen:Gwaith Goronwy Owen Cyf II.djvu/28
Gwedd
Prawfddarllenwyd y dudalen hon