Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwaith Goronwy Owen Cyf II.djvu/55

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fyrbwyll, ond o hir ystyried ac ymgynghori â'm carai. Ond er hynny, wedi ystyried ol a blaen, mi welaf yn awr lawer anghaffael na fedrais graffu arno nes bod yn rhywyr. Erbyn cytuno â pherchennog y llong, mi welaf nad yw yr holl arian a gaf at fy nhaith, ac oll a feddaf fy hun, wedi talu i bawb yr eiddo, ond prin ddigon i ddwyn fy nghost hyd yno; ac erbyn caffwyf fy nhroed ar Dir yr Addewid, y byddaf cyn llymed of arian a phan ddaethum o groth fy mam. Gwaith tost yw i bump o bobl fyned, nid i deyrnas, ond i fyd arall, heb ffyrling at eu hymborth! A gwaethaf oll yw, nad a ein llong ni o fewn deg milldir ar hugain i Williamsburg; ac, Och Dduw! pa fodd yr ymlusgir hyd fôr na thir heb arian? Fe ŵyr Duw mor llwm ac anrhwsiadus hefyd yr ydym oll i fyned i'r cyfryw le, ond nid yw hynny ddim os ceir bara.

Dyna 'r achosion, anwyl gydwladwyr, a barodd im' ryfygu gofyn eich cymorth ar hyn i dro; gan wybod yn ddilys na flinaf un o honoch byth rhagllaw. Ond os Duw rydd einioes, mi gydunaf a chwi 'n llawen i gymorth eraill o'n gwlad. Rhowch hefyd im' gennad ar hyn o achlysur, i dalu diffuant ddiolch i chwi am eich parodrwydd i'm cymorth dro arall pryd yr oedd llai fy angen i, er nad llai eich ewyllys da chwi na 'm diolchgarwch innau, er na cheisiais ac na chefais y pryd hynny ddim o'ch haelioni, o fai rhyw aelod blin terfysgus oedd yn eich plith. Ond yn awr yr wyf yn atolwch arnoch, y rhai oeddych mor barod i'm cymorth, ped fuasai raid, fy nghymorth ychydig wrth fy llwyr angenrhaid. Nid wyf yn ameu ewyllys da yr un o honoch ar y cyfryw