Gadpen ar fwrdd llong; onide ni ddeuai byth hyd yna, os daw er hynny. Mi 'sgrifennais atoch liaws o lythyrau yn nghylch wyth mlynedd i'r awron. Nis gwn a gawsoch ddim o honynt. Y mae yma, o fewn deugain milltir ataf, un Siôn ap Huw, Cymro o Feirionydd, yn berson mewn plwyf. Hwnnw a ddywaid imi fod fy nghyfaill Lewis Morris wedi cael ei daflu yn y gyfraith, a'i ddiswyddo, a'i ddyfetha, cyn iddo ef adael Cymru, ond nis clywsai mo'i farw. Fe ddywaid hefyd, fod peth o'm gwaith i yn argraphedig, a gwaith y Llew gyda hwynt. Gwych fyddai eu gweled. Do hefyd, fod gwaith Ieuan Fardd yn argraphedig. A ellir byth eu gweled tu yma i'r mor? Ni chaf na lle nag amser i ddywedyd ichwi ddim o'm helyntion ar hyn o dro. weloch yn dda 'sgrifennu, chwi gewch wybod y maint a fynnoch. Yr unig beth sydd imi i'w daer ddeisyf gennych yw, rhoi imi lawn gyfrif pwy yw y rhai o'm cydnabyddiaeth sy'n fyw, a pha le y maent, rhag imi 'sgrifennu at bobl yn eu beddau. Mae'ch nai, Sion Owen, Fwynwr? Mae Parry o'r Mint? Mae'r Person, Mr Humphreys? Ai byw Tom Williams, y Druggist o Lôn y Bais? Os e, yno y mae fyth? Ai byw Huwcyn Williams, Person Aberffraw? Ai byw 'ch tad? a'm chwaer Sian innau, yn Mynydd Bodafon? Mi gefais y newydd farw 'mrawd Owen yn Nghroes Oswallt. Yr wyf fi, i Dduw y bo'r diolch, yn iach heinyf; a'r wlad yn dygymod â mi 'n burion. Nid oes un o'm teulu Seisnig yn fyw ond fy mab Robert; ac y mae ef cymaint a mi fy hun. Yr wyf yn briod a'm trydedd wraig, a chennyf dri o blant a aned yma, heblaw Robyn. Gwlad dda helaeth-
Tudalen:Gwaith Goronwy Owen Cyf II.djvu/59
Gwedd