Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwaith Goronwy Owen Cyf II.djvu/65

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Gwawdodyn Hir.

Honni a gafodd o hen gofion,
Achoedd dewr bobloedd o dwr Bab'lon,
Coffa bri ethol cyff y Brython,[1]

Gomer a'i hil yn Gymry haelion,
Teithiau da lwythau dilythion,-diwarth,
O du Areulbarth i dir Albion.

Gwawdodyn Byr.

A thrin a thrabludd, lludd lluyddion
Prydain a'i filwyr, pryd nefolion;
A'r lladdiad, gâd ergydion-a oryw,
A gwaed a distryw 'r giwdawd estron.

Huppynt Byr.

Ni chaid diwedd
O'i hynawsedd
A'i hanesion;
Ni chair hafal
Wr a chystal
Ei orchestion.

Tawddgyrch Gyfochrog.

Llon wr gwraidd llawn rhagorau,
Mawrdda 'i ddoniau mor ddiddanion,
Dof arwraidd, difyr eiriau,
Meddaidd enau, wiw 'mddiddanion.

Huppynt Hir.

Glyw defodau
Eisteddfodau,
A'u hanodau,
A'u hynadon;

  1. Cyffy Brython. Efe a ysgrifenodd dwysgen ar y testun hwnnw; ond pa un ai bod dim o'r gwaith yn argraphedig, nis gwn.