Gwawdodyn Byr.
Uned ganiad eneidiau gwynion,
Llem araith wrol llu merthyron,
Ni ludd gweli, ni ladd gâlon—ei grym,
Nac ing croywlym, nac angeu creulon.
Dau Wawdodyn Hir.
Gwedi caledi, cyni, cwynion.
Artaith, erchyllwaith ac archollion,
Gwaed ffrau, a ffrydiau dagrau digron,
A chur marwol, a chriau mawrion,
Gwyarlliw fraenfriw oer frwynfron,—nid mud
Mawl cain côr astud mil can Cristion.
Eiddunaf finnau, Dduw Naf union,
Allu im' uno â'u llu mwynion,
Prydu i geisio perwawd gyson
I lwyswawd eirioes Lewys dirion,
Cywyddau cu odlau cydlon—ganu,
Lle mynno Iesu, lleu Monwysion.
Yr Awdl hon a gânt GORONWY OWEN, Person Llanandreas, yn swydd Brunswic, yn Virginia, yn y Gogleddawl America; lle na chlybu, ac na lefarodd hauach ddeng air o Gymraeg er ys gwell na deng mlynedd.
Gorffennaf 20, 1767.