Tudalen:Gwaith Gwilym Marles.pdf/102

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

PWY GLEDDIR GYNTAF?

PWY gleddir gyntaf yn y newydd fan?
Ai'r ieuanc hoew ynte'r baban gwan?
Neu o dan goron o benllwydni, yr hen?
Neu'r rhian dlos fu â swynion yn ei gwên?
Yr ateb hwn nis gall ond amser roi,—
I bwy'r dywarchen gyntaf gaiff ei throi.

Ond O, ni'm dawr! pwy bynna'r blaenffrwyth fydd,
Ein Tad orffwysfa dawel iddo rydd;
Y blodau tyner dyfant uwch ei ben,
Gan felus yfed maethlawn wlith y nen;
I'r distaw fedd ni chyrraedd sen y ffol,
A rhaib erlidwyr droir am byth yn ol.

Pwy gleddir gyntaf? Adeg ddaw, nad pwy,
Pan hoff serchiadau llawer yu y plwy
Ganolant yn y fan lle'n ceraint glwys
I huno roed o dan y wyryf gwys;
Ymwelwyr ddont o agos ac o bell
At feddau'r rhai ynt yn y wynfa well.

Pwy gleddir gyntaf? Duw a bia'r drefn;
Y bywyd roes, yn ol ei rhown drachefn.
Ein dyled pennaf ydyw gweithio'n daer
Dros achos Duw, tra 'mhlith y byw ein caer;
Ac Ef rydd inni'n fedd ryw anwyl le,
Ar fin y Cletwr fad, neu 'mhell o dre.