Tudalen:Gwaith Gwilym Marles.pdf/119

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

MELUS.

MELUS iawn i'r claf yw gwely,
Melus gan y teithiwr lety;
Melus yw i flin ymdeithydd
Ei hen fro a'i gartre dedwydd.

Y morwr dewr ar frig y tonnau
Sy'n ymfrwydro â'r elfennau,
Melus ydyw iddo lanio.
Yn y porthladd mae'n ddymuno.

Melus yw i'r oen fu'n crwydro
Gwrdd â'i fam a chwiliai am dano;
Melus ddychwel at yr eiddo
Y dryw bach a lluniaeth ganddo.

Melus i'r hynafgwr gyrraedd
Pen y rhiw, gan faint ei lesgedd;
A llawenydd gan y baban
Allu cerdded witho'i hunan.

Gwelais lanc o Gymru dirion
Draw ymhell yn ngwlad yr estron,
Mewn twymyn boeth, heb allu canfod
Neb o'i gylch oedd yn adnabod.

Aeth ei fam ar edyn cariad
Ac O! fel taniodd ei ddau lygad
Pan ei gwelodd gerllaw iddo
O wir serch yn gweini arno.
Melus ydyw caffael trysor
Fu yn ngholl am hirfaith dymor;
 Llais hen ffrynd sy felus odiaeth
Wedi blwyddi o ysgariaeth.