Tudalen:Gwaith Gwilym Marles.pdf/34

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

I FRAWD MEWN GALAR.

AETHAI blwyddyn heibio, 'mrawd,
Er pan y'th welswn di;
Y pryd hwnnw bychain draed
A wibient gylch y ty;
Clywid llais ariannaidd
O fore hyd brydnawn,
O ystafell i ystafell,
A chwi'ch dau yn ddedwydd iawn.

Y ddoe es at dy annedd
A churais wrth y drws,
Ac nis gallwn lai na chofio
Am dy drysor bychan tlws;
Dy anwyl wraig a ddaeth,
Ond wrth ei hochr neb,
A chrynedig oedd ei llais,
Ac yr oedd ei grudd yn wleb.

Gwelwn yr esgidiau bychain
O'r neilldu wedi eu rhoi,
Gwelwn fod y gader newydd
O'r neilltu wedi ei throi;
Nid oedd tegan yn y gegin,
Nag yn y parlwr un,
Hi nid oedd yno i chwareu,
Megys hithau cawsent hun.

Bodd neu anfodd doi y dagrau,
Trwyddynt gwelwn uwch y tân
Ohoni arlun bychan
Yn ei gwisgoedd gwynion glân;
Gwên ddifachlud ar ei gwyneb,
Ar ei gwyneb hawddgar llon,
Y fath wên a ddywedai 'bod
Yn rhy dda i'r ddaear hon.