Tudalen:Gwaith Gwilym Marles.pdf/37

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

YM MRIG YR HWYR.

CYSGODION nos ymledent dros y tir,
Yr awel hwyrol suai ym mrig y coed,
A rhwng eu tew golfenau'n iach a chlir,
Tywynnai Gwener,—seren serch erioed;
Yr afon dywysogaidd ar ei thaith
Furmurai'n ddiog ar ei gwely gro,
Tra rhyw ddistawrwydd o hyawdlaidd iaith
Yn araf estyn dros y brydferth fro.

Rhyw awr addoliad oedd, a theimlwn fod
Holl anian o fy nghylch ar isel lin,
Ei haelaf fron yn chwyddo'n llawn o glod,
A salm o fawl yn chwareu ar ei min;
Ffrwd beraidd yma'n ateb ffrwd islaw,
Peroriaeth fwyn ym mrigau coed y glyn,
A nenfwd temel yr eangder draw
Yn awr a'i mil o lampau claer ynglyn.

Gorffwyswn a fy mron yn llawn o hedd;
Meddyliau ddoent o diroedd mebyd draw,
A heulog wawr o gariad yn eu gwedd,
A bendith o dangnefedd yn eu llaw;
Ond buan llyncid pob adgofion per
Gan deimlad hyfryd y bresennol awr;
A'r hwyrnos honno, yn llewyrch byw y ser,
Ces, os erioed, flaen brawf o'r nefoedd fawr.