Tudalen:Gwaith Gwilym Marles.pdf/61

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ANERCHIAD PRIODASOL

I'r Parch. William James, B.A, o Aberdar,
a Miss Evans o'r Cefn (Gorff. 10fed, 1877).

AWR boed eich llwydd a mawr eich hedd,
O'ch glân briodas hyd eich bedd;
A'r ffurf ond arwydd gwir a nod
Mai un eich bywyd fyth a'ch bod.

Aeth mebyd heibio gyda'i lu
Difyrion a'i ddedwyddwch cu,
A daeth yr awr i chwi eich dau
O ddifrif fyned dan yr iau.

Iau, nid rhy drom, ond hawdd ei dwyn,
Lle calon bur a thymer fwyn;
Lle awydd fo rhwng deuddyn call
Am gynorthwyo'r naill y llall.

Ond iau hi fydd o ymdrech mawr
A phryder tywyll ambell awr;
Daw oriau tristwch dros eich pen,
A chewch y nefoedd las dan len.

Ond pan fo calon un yn llwfr
Ac yn ymollwng megys dwfr;
Y llall a chysur boed ger llaw
Gan weld y nef yn agor draw.

O gylch eich traed yn ddiddan blaid
Plant tyner chwariont yn ddi baid,
Nes teimloch pan ar fynd i'r ne'
Y cwyd eich plant i lanw eich lle.