Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwaith Huw Morus.pdf/23

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Ar Grist, y Gair union, yn dirion gwrandewch,
Er gofyn, yn erbyn gorchymyn ni chewch;
Na ofynnwch, dychwelwch at heddwch cytun,
A cheisiwch angenrhaid i'ch enaid ych hun."

Rhaid yw bodloni, dan ofni Duw ne,
Er gweled â'm llyged dyloted dy le;
Pe cynhygiwn y feddwn, ni phrynswn i â phris,
Dy hoedel di ar hyder dy fwynder di fis.

"Pe gwyddech ddiddaned a glaned, heb glwy,
Yw'r santedd gyfannedd a'r annedd yr wy,
Chwi ddeudech mai dedwydd, ie purffydd o'ch pen,
Fy magu i, a'm derchafu i fyny i'r nef wen."

Os cefest orchafieth a heleth fawrhad,
Yn gysur, le esmwyth, i'th dylwyth a'th dad,
Y mendith i'th ganlyn, gwiw rosyn y gras,
Mae'n siwr nad oes yna na chyffro na chas.

"Mae yma fodlonrwydd tragywydd i'w gael,
Drwy ymborthi ar berffeithrwydd yr hylwydd Dad hael,
Heb ddim anllyfodreth na hireth na haint,
Na neb a'm gwrthnebo i ymrwyfo am fy mraint."

Daionus fu d'eni at roddi i ni 'r fath radd,
Mewn lle nad oes golled na lladrad na lladd,
Mab Duw, fy Iachawdwr, a'm Rhoddwr, a'm rhan,
A ddelo i'r wledd ole a minne i'r un man.

"Yrwan yr ydech chwi'n edrych yn iawn,
Fel morwyn gall addas, ar deyrnas y dawn,
Yno mae'r iechyd, a'r hawddfyd, a'r hedd,
A Christ a'ch gwahoddo i arlwyo i'r un wledd."