Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwaith Huw Morus.pdf/63

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Hawdd heddyw fy hebgor, mae ambell ysgubor
Yn gystal am onor a minne."

Nid ydoedd gyfreithlon i grefftwr ne hwsmon
Mo'r bod yn athrawon, fel Aron i'w lu;
Ple cawson awdurdod i'w teie cyfarfod,
Nac esgus yn gysgod i ymgasglu?

"Gwr cymen i dafod, ac ysgafn fyfyrdod,
A gymer awdurdod heb wybod i bawb,
Fo geiff fod yn urddol i'r secte neillduol,
Heb droedio o fewn ysgol un esgawb."

Hwy ffrostian o'u crefydd, a'u ffydd, a'u ffordd newydd,
Gan farnu'r Difeinydd, rheolydd yr hen;
Mae "ysbryd" bwriadus i'w dysgu'n ofalus,
Sy well na rhad iachus Rhydychen.

"Gwylia gamgym'ryd, a choelia fi'n dwedyd,
Mae'n debyg fod ysbryd rhy ynfyd i'w rhan;
A llawer croes lwybyr i falcio'r Ysgrythyr
A gawsan drwy synwyr draws anian."

Y lan eglwys ole, ti a fuost mewn blode,
A ffraeth i ddwyn ffrwythe difryche'n dy fron;
Pa fodd y dae'r efre i blith dy wenithe,
In twyllo ni am lysie melusion?

"Chwynn gw'lltion i dyfu, pan oeddech chwi'n cysgu,
A gawsan gynyddu, am i chwynnu mae'n chwith;
Pan aethan yn amal, heb neb yn i hatal,
Nhw wnaethon ddrwg anial i'r gwenith."

Rhai'n rhith Protestanied a drodd lawer siaced,
Wrth droi gen fynyched y rhwyged yr hedd;