Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwaith Huw Morus.pdf/65

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Gweiddi mae fo eto, a'r ddaear sy'n cwyno
A'r awyr yn duo, a dial gerllaw;
Er hir gysgu'n esmwyth, ar Ahab a'i dylwyth
Digwyddodd ewymp adwyth cyn peidiaw.

O waith y gwyr gwaedlyd yn Llundain 'r un ffunud
Rhaid ydoedd dwyn pennyd anhyfryd yn hir;
Yn ddialedd na ddelo a fo gwaeth i'n caethiwo,
Mae'n hawdd i ni wylo am y welir.

Fe ddaeth rhyw sur wreiddyn aflesol o Lasfryn [1]
A dyfod yn sydyn mewn blwyddyn yn bla,
I dwyllo golygon rhyw dinerth rhai dynion,
Oedd weinion, mor oerion a'r eira.

"Fe dyfodd tair cangen, siwr felly, o sur 'fallen,
A ffrwythe cenfigen, a chynnen, a chas;
Mae'r sorod aflesol yn lle'r grawn ysbrydol

Trwy'n gwlad yn gynyddol anaddas.
"Morafiad amryfus, a'r Methodist moethus,[2]
A'u llid yn drallodus, rai bregus heb rol,
Disenter anghelfydd, wr tradoeth, yw'r trydydd,
Yn gwadu'r eglwysydd gwiw lesol."


  1. Os oes yma gyfeiriad at yr Anghydffurfiwr William Pritchard, o'r Glasfryn, a anwyd yn 1702, rhaid fod y pennill hwn a'r ddau sy'n dilyn wedi eu hychwanegu gan rywun ar ol dyddiau Huw Morus. Nid ydyw'r pennill hwn, na'r tri dilynol, yn y "Blodeugerdd" nac yn "Eos Ceiriog."
  2. Codwyd y penhillion hyn o lawysgrif un yn ysgrifennu tua 1750. Erbyn hynny yr oedd John Wesley wedi bod yng Nghymru, a Howell Harris wedi pregethu, a Williams Pant Celyn wedi canu a chyhoeddi emynnau. Cymerodd y gair "Methodist" le y gair Presbyteriad": gwelais of llaw ddiweddarach yn newid y gair a'i ansoddair mewn amryw ysgriflyfrau. Ond gweler y nodyn blaenorol ar Lasfryn.