Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwaith Huw Morus.pdf/67

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

CERDD OWEN O'R PANDY.
Tôn,—"GADEL TIR."

Os mynnwch hysbysrwydd o hanes ynfydrwydd,
Chwi ellwch yn hylwydd heb gelwydd i gael,
Mi gymres boen lawer, drwy drafferth a blinder,
A hynny'n rhy ofer fy nhrafel.

Ni ddichon aderyn fawr hedeg heb edyn,
Pa fodd y tro i'n gerlyn—oferddyn y fum;
Llawer bai hynod, ym marn fy nghydwybod,
Mewn bythod, wyw nythod, y wnaethum.

Mi fum yn marchnata o'r Mwythig i'r Bala,
Ar feder cael helfa trwy elwa 'mhob tre;
Er bod yn gyfarwydd, anfynych heb aflwydd
Y down mewn parodrwydd pur adre.

Cychwynnwn yn gynnar, fel clomen feddylgar
Ag ymborth i'w hadar, gan redeg yn chwyrn;
Rhyfeddol y fydde er Mercher y bore
Fynd adre cyn Difie gan defyrn.

Pan fyddwn ofalus, a'm bryd a'm llwyr wyllys,
Fynd yn ddi-rwystrus, wir drefnus, o'r dre,—
Rhyw hanner cydymeth, os medre beth gwenieth,
Mewn cwlwm hudolieth a'm dalie.

Gwyr cedyrn feddylie a fedrent fynd adre,
I galw i goeg fagle ni phoene rhai ffol;
Yn feddwon pan fydden, a male ymhob talcen,
Hwy alwen ar Owen yn reiol.

Pob math ar ddyn llawen, brau amarch a brwynen,
A'm twyse at y fflagen, fin fursen fain fer;
Nid alle ond llaw gadarn, fy nhynnu a thid haiarn
Ffwrdd allan o'r dafarn wawd ofer.