I Anna, merch a aned,
A honno yw Mair-Crair Cred.
Bu Fair o'r Gair yn ddi-gel,
Yn feichiog o Nef uchel;
Mal yr haul y molir hon,
Drwy, wydr yr â i'r ffynnon;
Yn'r un modd, iawn rhydd anrheg,
Y daeth Duw at famaeth deg,
Goreu mam, goreu mamaeth,
Goreu i nef, y gwr a wnaeth,
Cyflawn oedd, cyflawn addwyn,
Tref i Dduw, tra fu i'w ddwyn.
Angylion gwynion yw'r gwyr,
Oedd i Wen ymddiddanwyr;
Wrth raid mawr, er athrodion,
Y ganed Duw o gnawd hon:
Hon a fagodd o'i bronnau,
Hynaws mawl o'i hanes mau.
Baich ar i braich oedd i Brawd,
A baich a'n dug o bechawd;
I Thad oedd yn y gadair,
A'i Mab oedd yn hŷn na Mair,
Mair a wnel, rhag yn gelyn,
Ymbil a Duw am blaid in;
Ar yn Duw, ef a wrendy
Neges y frenhines fry.
O chawn ni'n rhan drwy Anna,
Mwy fydd yn deunydd a'n da.