Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwaith Iolo Goch.djvu/85

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Helm gribog rudd-faelog-fyth,
A habrsiwn, walch glew hybrsyth.
Ni chollai wan, gwinllan gwyr,
Dref i dad, dra fu Tudur;
Ni phlygid gâr Anarawd,
Odid y doi lid i dlawd.
Na ddalier ych dan wych wedd,
Na ynganer yng Ngwynedd,
Na sonier am a dderyw,
Na lafurier, ofer yw;
Na chwardder am wych heirddion,
Na hauer mwy yn nhir Mon.


XXX. EDWART III, BRENIN LLOEGR.

EDWART AB EDWART, gwart gwyr,
Ab Edwart, anian Bedwyr,—
Edwart, wyr Edwart ydwyd,
Edwart Trydydd, llewpart llwyd.
Gwisgaist aurgrest yr aer,
Crest gwedi cwncwest can-caer;
Ar awr dda arwraidd wr,
Aur gwnsallt, eryr Gwynsor.
I'th annedd, a'th ddaioni,
Na fetho teyrn fyth i ti.
Cael a wnaethost, post peis-dew,
Galon a llaw-fron y llew;
Baedd y cyfnewid didwyll,
A phen, a synwyr, a phwyll;
A ffriw lygliw olwg-loew,
A phryd dawn a phriod hoew;
A phob iaith, cyd ymdaith cadr,
Engylaidd wyd, fy ngwaladr.
Cefaist gost, cefaist gysteg,
Yn nechreu d'oes, iawn ochr deg,